Tymor Triathlon yn Sir Gaerfyrddin - Crynhoi

25/08/2024

Actif mewn partneriaeth â Gweithgareddau Bywyd Iach

Roedd Chwaraeon a Hamdden Actif yn falch i gefnogi digwyddiadau triathlon Gweithgareddau Bywyd Iach unwaith eto am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae Gweithgareddau Bywyd Iach yn cynnig yr amrywiaeth fwyaf o ddigwyddiadau cyfranogiad chwaraeon torfol yn Sir Gaerfyrddin. Mae eu digwyddiadau yn darparu ar gyfer unigolion o bob gallu, oed ac yn galluogi athletwyr i osod eu heriau eu hunain.

Mae Noelwyn Daniel a Sharon Daniel wedi trefnu dros 150 o ddigwyddiadau o safon uchel ers dros 20 mlynedd, gyda chefnogaeth swyddogion o Driathlon Cymru a Triathlon Prydain, gwirfoddolwyr ymroddedig, clybiau lleol a sefydliadau eraill.

Yn ogystal â triathlon ar gyfer athletwyr yn ei harddegau ac oedolion, mae Gweithgareddau Bywyd Iach hefyd yn cynnig cyfleoedd i blant ac yn credu mewn buddsoddi amser ac ymdrech i sicrhau bod cymaint o blant yn cymryd rhan mewn digwyddiadau.

 

 

Yn gynharach eleni ar Ŵyl y Banc Mai, cynhaliwyd Rasys Hwyl Y Maer Caerfyrddin am y 41ain tro o amgylch strydoedd Canol y Dref, gan ddenu tua 750 o redwyr.

Dechreuodd y diwrnod gyda ras 3-lap 5K cyn cyfres o rasys plant, yn amrywio o’r rhai yn y meithrin i’r ysgol gynradd a blynyddoedd 7 ac 8.

Sefydlwyd y ras flynyddol gan y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, mewn partneriaeth â Llywydd Clwb Harriers Caerfyrddin, Dr Hedydd Davies.

Cododd arian i sawl elusen gyda grwpiau a sefydliadau lleol yn elwa. Aeth yr elw i Fanc Bwyd Christ Church, Corfflu Hyfforddiant Awyr, Opera Ieuenctid Caerfyrddin, Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, Prostrate Cymru a Thŷ'r Cwm - Leonard Cheshire.

Roedd Maer Tref Caerfyrddin wrth law i gychwyn y rasys a chyflwyno medalau a thlysau i bawb oedd yn cymryd rhan.

Fe wnaeth tlws Her Tîm Corfforaethol cael ei ennill gan rhedwyr Actif am yr ail flwyddyn yn olynol!

Yn ddiweddarach yr wythnos honno ar Ddydd Gwener Mai 10, Dydd Sadwrn Mai 11 a Dydd Sul Mai 12, cynhaliwyd Gŵyl Aml-Chwaraeon Llanelli yn Noc y Gogledd.

Daeth bron i 200 o gyfranogwyr i noson Nofio Elusennol Actif Sospan yn ei 6ed flwyddyn. Roedd 4 pellter ar gael ar gyfer gwahanol alluoedd, yn amrywio o 750 metr i 3000 metr.

Cododd dros £3,000 tuag at waith Uned Gofal y Fron Peony Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn Ysbyty Tywysog Phillip.

Yn dilyn hyn, cynhaliwyd Duathlon Iau Swim Sharks Llanelli, Triathlon Sbrint y Gyfres Brydeinig, ParaTriathlon Llanelli a Triathlon Sbrint Llanelli AGILIS yn ystod penwythnos a welodd athletwyr yn teithio o bob rhan o'r Deyrnas Unedig.

Pencampwriaeth sbrint Cymru oedd yr olaf a ras gyntaf Cyfres Triathlon Cymru 2024, gydag uchafbwyntiau yn cael eu darlledu ar sianel S4C.

 

 

Daeth tymor triathlon 2024 yn Sir Gaerfyrddin i ben yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman a’r cyffiniau. Cynhaliwyd Triathlon Sbrint Dyffryn Aman am yr 11eg tro.

Wedi'i ail-drefnu o ddechrau mis Ebrill oherwydd tywydd gwael, dychwelodd y digwyddiad poblogaidd dros benwythnos Gŵyl y Banc ar ddydd Sul, Awst 25.

Cymerodd mwy na 150 o gystadleuwyr ran, gyda nifer yn cymryd rhan yn eu cystadleuaeth triathlon cyntaf erioed.

Gan frwydro yn erbyn cawodydd trwm ac awel gref, cwblhaodd y triathletwyr nofio 400m yn y pwll cyn cychwyn ar daith feicio 16km ar hyd y ffordd fawr i Garnant. 

Rhedeg 5km oedd y drydedd ddisgyblaeth ar hyd llwybr beicio Dyffryn Aman cyn mynd yn ôl i dir y Ganolfan Hamdden am orffeniad mawreddog i lawr y carped coch i gasglu eu medal am orffen.

I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau triathlon yn Sir Gaerfyrddin, ewch i www.healthylifeactivities.co.uk