Actif Newydd Sbon yng Nghanolfan Pentre Awel – Yn agor yn fuan!
Rydym yn paratoi i'ch croesawu i gyfleuster Actif newydd sbon, o'r radd flaenaf, yng nghanol Canolfan Pentre Awel, Llanelli – ac allwn ni ddim aros i ddangos i chi beth sydd i ddod.. rydym bron yn barod – ac mae'n mynd i fod yn werth yr aros.
Dyma beth sy'n aros amdanoch chi:
- Ystafell ffitrwydd dair gwaith maint campfa bresennol Canolfan Hamdden Llanelli
- Pwll nofio 25m, pwll bach a phwll hydrotherapi
- Amrywiaeth enfawr o ddosbarthiadau ffitrwydd a lles
- Neuadd chwaraeon 8-cwrt (neu 2 gwrt pêl-rwyd llawn!)
- Stiwdio Chwilbedlo bwrpasol
- Caffi cymunedol
P'un a ydych chi'n edrych i feithrin cryfder, symud, ymlacio'ch meddwl neu deimlo'n rhan o gymuned fywiog — mae rhywbeth yma i bawb.
Cofrestrwch eich diddordeb
Byddwch yn un o'r cyntaf i brofi'r Actif newydd sbon yng Nghanolfan Pentre Awel – a pheidiwch â thalu unrhyw ffi ymuno pan fyddwch chi'n cofrestru!
Cofrestrwch eich manylion islaw a bydd aelod o dîm Actif mewn cysylltiad cyn gynted ag y byddwn yn cadarnhau ein dyddiad agor i'ch tywys trwy'ch opsiynau a chymhwyso'ch cynnig unigryw.
Drwy gofrestru, byddwch hefyd yn:
- Cael y diweddariadau diweddaraf ar ein cynlluniau agor
- Byddwch y cyntaf i glywed am opsiynau a chynigion aelodaeth
- Derbyn gwahoddiadau i deithiau / cyflwyniadau yn y cyfleuster newydd
Dim ond munud y mae'n ei gymryd i gofrestru — ac mae'n golygu y byddwch yn barod i gychwyn arni o'r diwrnod cyntaf!