Profwch ymarferion sy'n cael eu gyrru gan gerddoriaeth a chymuned sy'n herio'r corff a'r meddwl yn ein stiwdios chwilbedlo o'r radd flaenaf.
Stiwdio Beicio Dan Do – Barod, Beicio, Bant a Ni!
- Ymarferion grŵp egni uchel gyda rhestrau chwarae sy'n eich gwthio i wneud eich gorau glas
- Croeso i bob lefel ffitrwydd: gallwch addasu gosodiadau'r beic i gyd-fynd â'ch dwysedd - p'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n reidiwr profiadol
- Hyfforddwyr cyfeillgar, profiadol sy'n cadw dosbarthiadau yn ysgogol, yn ddiogel ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau
- Offer a thechnoleg premiwm: mae beiciau cysylltiedig sy'n tracio perfformiad yn rhoi metrigau amser real ar allbwn, cyfradd curiad y galon, cyflymder, pellter
Ein Beiciau – Reidio'n Glyfrach
Rydym yn defnyddio beiciau IC-6 ac IC-7 o ICG® a Keiser indoor cycles, offer blaengar yn y diwydiant wedi'u cynllunio ar gyfer:
- Gwrthiant llyfn, ymatebol ar gyfer teimlad realistig o fod ar y ffordd
- Tracio perfformiad uwch (watiau, RPM, cyfradd curiad y galon)
- Cysylltedd Bluetooth ar gyfer integreiddio MOWL a chysoni cerddoriaeth
- Dyluniad ergonomig ar gyfer cysur a diogelwch ar draws pob lefel ffitrwydd
Beth sydd ar gael
- Reidiau Rhythmig: Reidio i'r curiad mewn sesiynau wedi'u coreograffu sydd wedi'u cynllunio i godi cyfradd curiad eich calon
- Reid Bŵer: Sesiynau Metrigau i fonitro eich watiau neu gyfradd curiad y galon yn fyw ar gyfer hyfforddiant manwl gywir, mesuradwy
- Reidiau Cyfeillgar i Ddechreuwyr: Cyflymder hawdd, amgylchedd cefnogol, nid oes angen profiad beicio
Cyflwyno Beicio Rhithwir gyda MOWL®
Darganfyddwch ein platfform beicio rhithwir MOWL® i gael golwg newydd ar chwilbedlo:
- 1000 o reidiau tywys gan hyfforddwyr arbenigol
- Delweddau trawiadol a data amser real wedi'u cysoni â'ch reid
- Cyswllt Clyfar: Cysylltu trwy Bluetooth, integreiddio â Spotify, tracio pŵer a RPM yn ddiymdrech
- Rhannu eich taith yn ddigidol: Postiwch ystadegau eich reidiau a'ch cyflawniadau ar y cyfryngau cymdeithasol neu anfonwch ddolenni at ffrindiau
Lawrlwythwch yr Ap MOWL
Ewch â'ch profiad chwilbedlo y tu hwnt i'r stiwdio gyda'r ap MOWL:
- Mynediad at filoedd o reidiau rhithwir unrhyw bryd, unrhyw le
- Tracio eich cynnydd gyda metrigau perfformiad manwl
- Rhannu eich taith yn ddigidol gyda ffrindiau ac ar y cyfryngau cymdeithasol
- Cysylltu eich cerddoriaeth trwy Spotify ar gyfer reid cwbl drawiadol
Lawrlwythwch yr ap MOWL heddiw ar iOS neu Android a dechreuwch feicio rhithwir ar flaenau eich bysedd.
Sut mae'n Gweithio
- Archebwch drwy Ap Actif – dewiswch rhwng sesiynau rhithwir MOWL neu Beicio Dan Do byw
- Cyrhaeddwch yn gynnar – bydd hyfforddwyr yn helpu gyda gosod y beic
- Reidiwch drwy bob cam - ymarferion cynhesu, dringfeydd, sbrintiau, ymarferion oeri - wedi'u harwain trwy ap MOWL neu giwiau hyfforddwr
- Tracio ac adolygu - allbwn, cyfradd curiad y galon, a data reidio wedi'i gofnodi i'ch proffil
Hyfforddi, Cysylltu, Ffynnu
- Mae egni grŵp yn cadw cymhelliant yn uchel ac yn meithrin atebolrwydd
- Mae fformatau hyblyg yn gadael i chi ddewis dosbarthiadau rhithwir byw ymdrochol neu dan arweiniad hyfforddwr
- Croesewir pob gallu: o feicwyr newydd i selogion ffitrwydd, darganfyddwch eich rhythm, meithrin hyder, ac arhoswch yn gyson
Oeddech chi'n gwybod? Rydym yn llogi ein hystafelloedd Beicio Dan Do ar gyfer sesiynau beicio tîm!
Pa un a ydych yn ddechreuwyr neu'n chwilio am sesiwn ymarfer sy'n anodd o ran dygnwch, mae chwilbedlo yn addas i bobl o bob lefel ffitrwydd. Mae pob dosbarth yn eich galluogi i wneud cynnydd ar gyflymder sy'n addas i chi oherwydd chi sy'n rheoli'r gwrthiant drwy gydol y sesiwn. Byddwch dan arweiniad yr hyfforddwr drwy gydol y sesiwn.
Mae dosbarthiadau yn para oddeutu 30 munud.
Hoffech chi roi cynnig arni? Sicrhewch eich bod yn archebu eich lle ac yn cyrraedd 10 munud yn gynnar er mwyn i'r hyfforddwr ddangos i chi sut i addasu'r sêt a'r cyrn ar eich cyfer.