PDG (Plant sy'n derbyn gofal) a Cynllun Gostynigadau Hamdden Cyngor Sir Gaerfyrddin

Canllawiau ar gyfer swyddogion gofal cymdeithasol ac ymgeiswyr

PDG (Plant sy'n derbyn gofal) a Cynllun Gostynigadau Hamdden Cyngor Sir Gaerfyrddin

Mae'r ymgeiswyr cymwys yn cynnwys:

1. Teuluoedd Gofal Maeth, yn cynnwys

  • Gofalwyr Maeth
  • Plant Gofalwyr Maeth
  • Plant Maeth (Tymor Hir a Byr)
  • Lleoliadau Seibiant
  • Gall plentyn cael ei edrych ar ei ol hyd at 18 oed

 

2. Unigolyn sy'n Gadael Gofal

Gall gofalwyr fod rhwng 16 a 25 oed.

 

Mae'r gostyngiadau'n cynnwys:

1. Teuluoedd Gofal Maeth

  • Nofio am ddim yn ystod sesiynau cyhoeddus.
  • Cyflwyniad am ddim i Ystafelloedd Ffitrwydd Actif (16 oed a throsodd yn unig)

 

Unigolyn sy'n Gadael Gofal

  • Nofio am ddim yn ystod sesiynau cyhoeddus.
  • Cyflwyniad am ddim i Ystafelloedd Ffitrwydd Actif (16 oed a throsodd yn unig)
  • Defnydd o Ystafelloedd Ffitrwydd Actif am ddim.

 

Sut mae cyflwyno cais

1. Swyddogion Gofal Cymdeithasol

a) Anfonwch ffurflenni cais a'r canllawiau hyn at yr holl ymgeiswyr sy'n gymwys ar hyn o bryd.

b) Anfonwch ffurflenni cais a'r canllawiau hyn at yr holl ymgeiswyr newydd cymwys bob mis wedi hynny.

c) Nod tîm cymorth Busnes Canolog Chwaraeon a Hamdden Actif yw prosesu ceisiadau o fewn 10 diwrnod.

d) Er gwybodaeth, anfonir e-bost at y safle hamdden perthnasol yn y Dyffryn a'r SSW sy'n cymryd rhan i gadarnhau bod y cais wedi'i brosesu a bod y cardiau aelodaeth a'r talebau wedi'u hanfon allan yn ôl yr angen.

 

2. Rhai sy'n Gadael Gofal:

a) Bydd y Cynghorydd Personol (PA) yn cwblhau un ffurflen gais fesul person sy'n gadael gofal.

b) Bydd y PA yn atodi paragraff ac yn e-bostio'r ffurflen gais i actif@sirgar.gov.uk

c) Nod tîm cymorth Busnes Canolog Chwaraeon a Hamdden Actif yw prosesu ceisiadau o fewn 10 diwrnod.

d) Er gwybodaeth, anfonir e-bost at y safle hamdden perthnasol yn y Dyffryn a'r SSW sy'n cymryd rhan i gadarnhau bod y cais wedi'i brosesu a bod y cardiau aelodaeth a'r talebau wedi'u hanfon allan yn ôl yr angen.

 

Cwblhau y Ffurflenni

Teuluoedd Maeth, Plant Maeth Tymor Byr / Lleoedd Seibiant:

a) Rhaid i'r Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol (SSW) lenwi'r ffurflen ac atodi 2 lun maint pasbort i bob cais. 1 os yw'n ddigidol ac yn cael ei e-bostio.

i. Ychwanegwch y nifer uchaf o leoedd (ar unrhyw adeg) at un ffurflen gais Gofalwyr.

ii. Rhowch nifer y lleoedd cymeradwy sydd gennych yn y blwch wedi'i farcio "Plant Maeth Tymor Byr / Lleoedd Seibiant" ar y ffurflen gais.

iii. Peidiwch â chynnwys lluniau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

b) Anfonwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau ynghyd â lluniau drwy e-bost i actif@carmarthenshire.gov.uk

c) Nod tîm cymorth Busnes Canolog Chwaraeon a Hamdden Actif yw prosesu ceisiadau o fewn 10 diwrnod.

 

Cardiau Aelodaeth

  • Rhoddir cerdyn aelodaeth unigol i bob person.
  • Rhaid dangos y cerdyn ar bob ymweliad a'r safle hamdden a ddewiswyd i sicrhau'r gostyngiad perthnasol/gweithgaredd am ddim.
  • Bydd cardiau aelodaeth yn dod i ben ar ol 12 mis.
  • Gellir adnewyddu aelodaeth trwy gasglu ffurflen gais newydd oddi wrth y Swyddogion Gofal Cymdeithasol ac ailgyflwyno cais fel uchod. Nid yw hwn yn berthnasol i unigolion sy'n gadael gofal.
  • Ni fydd cardiau aelodaeth ar gyfer Plant Maeth Tymor Byr/Lleoedd Seibiant yn cynnwys ffotograff nac enw; yn hytrach nodir 'Tocyn Mynediad Rhad i Blentyn' ar y stribed enw.

 

Talebau ar gyfer sesiynau cyflwyno am ddim

  • Bydd taleb ar gyfer sesiwn gyflwyno am ddim yn cael ei hanfon allan gyda cherdyn aelodaeth pawb sy'n 16+.
  • Fel yn achos y cerdyn aelodaeth, bydd y talebau yn dod i ben ar ol 12 mis.
  • Rhaid trefnu'r sesiwn gyflwyno ymlaen llaw trwy gysylltu a'r ganolfan hamdden o'ch dewis.
  • I sicrhau sesiwn gyflwyno am ddim, rhaid cyflwyno'r daleb yn y dderbynfa cyn y sesiwn.

 

Ymholiadau

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun, cysylltwch ag Actif trwy ebostio actif@sirgar.gov.uk.