Nod y Fenter Nofio Am Ddim yw cael mwy o bobl ifanc i ddysgu nofio a nofio yn fwy rheolaidd. Mae'n rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei rheoli gan Chwaraeon Cymru a'i darparu gan y 22 Awdurdod Lleol.
Sesiynau Nofio am ddim dros 60 oed ac o dan 16
O 1 Medi, mae newidiadau pwysig i'n rhaglen Nofio am Ddim 60+ .
Mae'r fenter nofio am ddim wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ers ei chyflwyno yn 2003. Oherwydd gostyngiad yn yr arian a geir gan Lywodraeth Cymru Due to a reduction in the budget allocation ac awydd i ddenu mwy o gyfranogwyr, mae angen i ni addasu'r cynnig. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd o ran pryd mae pobl yn mynychu.
Gan ddechrau Medi 1, bydd cwsmeriaid yn cael mynediad i BOB sesiwn nofio lonydd a chyhoeddus am hyd at 9 sesiwn y mis am ddim (heb ei gyfyngu i sesiynau nofio 60+ yn unig). Mae hyn yn golygu tua dau nofio am ddim yr wythnos.
Nofio am ddim i blant ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Pentre Awel, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman a Canolfan Hamdden Llanymddyfri fel a ganlyn:
Nofio am ddim i blant
Canolfan Hamdden Caerfyrddin
Sesiynau 16 ac o dan
Dydd Sadwrn: 3.00yp - 4.00yp
Canolfan Pentre Awel
Sesiynau 16 ac o dan
Dydd Sadwrn: 3:30yp - 4:30yp
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
Sesiynau 16 ac o dan
Dydd Sul: 1:00yp - 2:00yp
Canolfan Hamdden Llanymddyfri
Sesiynau 16 ac o dan
Dydd Sul: 11.00yb - 12.00yb
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Mae’r sesiwn hon yn sesiwn hamddenol, dyner a chynhwysol i oedolion yn unig mewn amgylchedd diogel, cefnogol a chyfeillgar.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn yn addas? Unrhyw un sy'n byw gyda cholled cof oherwydd oedran, unrhyw un sydd am fwynhau ymarfer corff effaith isel i helpu i wella sefydlogrwydd, cydbwysedd, hyblygrwydd a hwyliau. Mae croeso mawr i ofalwyr.
Beth sydd angen i chi ei wybod am nofio a dementia
• Gall nofio gynnig ymdeimlad o les meddyliol, rhywbeth na ellir ei fesur yn hawdd ond sy'n aml yn cael ei grybwyll yn anecdotaidd gan gyfranogwyr.
• Mae'n clirio'r meddwl, yn annog positifrwydd ac yn adeiladu ymdeimlad o hunanwerth.
• Gall nofio leddfu cynnwrf a lleihau pryder, ymlacio'r corff, cynnal y corff mewn amgylchedd cymharol ddi-bwysau.
• Gall Canolfannau Hamdden hefyd fod yn fannau cyfarfod, a all helpu i leihau unigrwydd, eich cyflwyno i ffrindiau a chynnig cyfleoedd i gymdeithasu.
Mae’r pedwar awgrym yma ar gyfer unrhyw nofiwr sy’n byw gyda dementia, neu ar gyfer eich gofalwr.
1. Gallwch ofyn am ymweliad ymgyfarwyddo â'ch pwll nofio lleol lle dymunwch nofio. Bydd hyn yn caniatáu i chi, neu'ch gofalwr, ofyn yr holl gwestiynau sydd eu hangen arnoch.
2. Peidiwch â meddwl oherwydd diagnosis bod yn rhaid i chi roi'r gorau i wneud gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau neu roi cynnig ar bethau newydd.
3. Os na allwch fod yn actif oherwydd poen yn y cymalau, cymerwch ran mewn nofio - mae'n fath o weithgaredd effaith isel, felly mae'n hawdd ar eich cymalau.
4. Ceisiwch gyngor gweithiwr meddygol proffesiynol os oes gennych unrhyw bryderon.
Mae'r rhai 60+ oed a'u Gofalwyr yn mynd am ddim.
Sesiynau Cyfeillgar i Ddementia
Canolfan Hamdden Caerfyrddin
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Dydd Iau: 3:00yp - 4:00yp
Canolfan Pentre Awel
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Dydd Mercher: 2:30yp - 3:30yp
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Dydd Gwener: 2:30yp - 3:30yp
Canolfan Hamdden Llanymddyfri
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Dydd Mawrth: 10:30yb - 11:30yb
Dydd Iau: 10.45yb - 11:45yb
Cerdyn y Lluoedd Arfog
Mae Cerdyn y Lluoedd Arfog yn cynnig mynediad am ddim i sesiynau nofio ar draws ein canolfannau hamdden.
Mae'r fenter hon yn rhan o'n hymrwymiad i hyrwyddo iechyd, lles, a ffyrdd o fyw egnïol o fewn cymuned y Lluoedd Arfog.
I ddechrau, cofrestrwch a dewch â'ch Cerdyn Lluoedd Arfog dilys gyda chi ar eich ymweliad cyntaf. Mae hyn yn ofynnol i wirio ac actifadu eich cyfrif.
Unwaith y bydd eich cyfrif wedi'i wirio, byddwch yn gallu mwynhau sesiynau nofio fel rhan o'r budd hwn.