GoodBoost

Rhaglen ymarfer corff therapiwtig sy'n seiliedig ar ap sydd wedi'i chynllunio'n benodol i gefnogi unigolion â chyflyrau cyhyrysgerbydol, megis arthritis, poen clun neu ben-glin, cyn/ar ôl cael cymal newydd, a mamau beichiog.

GoodBoost rhaglen ymarfer corff yn seiliedig ar ap

Beth yw GoodBoost?

Rhaglen ymarfer corff therapiwtig sy'n seiliedig ar ap sydd wedi'i chynllunio'n benodol i gefnogi unigolion â chyflyrau cyhyrysgerbydol, megis arthritis, poen clun neu ben-glin, cyn/ar ôl cael cymal newydd, a mamau beichiog.

Newyddion Mawr: Aelodaeth 12 wythnos am ddim!

Gallech fod yn gymwys i gael 12 wythnos o aelodaeth GoodBoost AM DDIM, trwy garedigrwydd eich meddygfa leol.

Mae'r meddygfeydd GP yn cynnwys:

  • Furnace House
  • St Peter's
  • Morfa Lane
  • Coach and Horses
  • Meddygfa Taf
  • Meddygfa Teifi
  • Meddygfa Teilo
  • Llanfair

Cwblhewch y ffurflen ymholiad heddiw, a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd.

Gwiriwch gymhwysedd a gwnewch gais nawr

GoodBoost Sessions

Ar gyfer pwy mae'r cynllun?

  • Pobl sy'n byw gydag osteoarthritis, arthritis gwynegol, poen yn y cymalau.
  • Unigolion cyn neu ar ôl cael clun neu ben-glin newydd
  • Menywod Beichiog (Aqua Natal)
  • Unrhyw un sy'n edrych i leihau poen, cryfhau, gwella symudedd - a mwynhau bod yn egnïol a chymdeithasol

Rhaglenni sydd ar gael

Rhaglen

Arddull Lleoliad

Hyd

Tir

Canolfannau hamdden a lleoliadau cymunedol

10 – 30 munud

Aqua

Pyllau (grŵp/unigolyn)

20 – 40 munud

Aqua Natal

Pyllau ar gyfer mamau beichiog

20 – 40 munud

Sut mae'n Gweithio

  1. Cwblhewch y Ffurflen Ymholiad
    Dyma eich cam cyntaf! Llenwch y ffurflen fel y gallwn wirio cymhwysedd a threfnu eich sesiwn gyflwyno.
  2. Sesiwn Gyflwyno
    Ar ôl cael cymeradwyaeth, byddwch yn cwblhau gwiriad iechyd ac yn adeiladu eich proffil personol ar yr ap.
  3. Archebwch eich Sesiynau
    Ar ôl y sesiwn gyflwyno, defnyddiwch yr ap Actif i archebu sesiynau 'Campfa' (tir) neu 'Nofio' (acwa).
  4. Ymarferion drwy Lechen
    Ym mhob sesiwn, dilynwch ymarferion wedi'u teilwra trwy lechen gwrth-ddŵr - wedi'i raddio gennych fel "hawdd," "iawn," neu "rhy anodd." Mae'r rhaglen yn hunan-addasu i gyd-fynd â'ch cynnydd.

Sut bydd sesiynau'n cael eu cyflwyno?

Gall sesiynau amrywio yn ôl canolfan a gallant gynnwys fformatau grŵp neu unigol.
Bydd eich sesiwn gyflwyno yn esbonio sut mae sesiynau'n cael eu darparu yn eich lleoliad dewisol. 

Pwy fydd yn elwa?

Mae sesiynau GoodBoost yn addas ar gyfer ystod eang o gyflyrau iechyd, gan gynnwys:

  • Cyflyrau cyhyrysgerbydol
  • Osteoarthritis
  • Cyn ac ar ôl cael clun neu ben-glin newydd
  • Poen clun a phen-glin
  • Arthritis gwynegol
  • Sesiynau Plus Aqua Natal ar gyfer menywod beichiog

Y nod yw lleihau poen, gwella cryfder, symudedd a swyddogaeth, a rhoi cyfle i chi gymdeithasu a chadw'n egnïol.

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich cyflwr, gan gynnwys beichiogrwydd, gofynnwch am gyngor gan weithiwr proffesiynol meddygol.

A wyddech chi?

Nid yw GoodBoost yn ymwneud ag adsefydlu ysgafn yn unig - mae hefyd yn cynnwys dilyniannau sy'n addas ar gyfer hyfforddiant ffitrwydd dŵr mewn dŵr bas a dwfn. Mae'r dilyniannau hyn yn berffaith ar gyfer:

  • Gwella dygnwch cardiofasgwlaidd
  • Adeiladu cryfder a thynhau'r cyhyrau
  • Gwella hyblygrywdd a symudedd trwy ymarferion ymestyn a chryfau wedi'u targedu

P'un a ydych chi'n chwilio am adferiad effaith isel neu ymarfer cordd mwy heriol, mae GoodBoost yn addasu i'ch nodau.

Cost ac Aelodaeth

  • Fesul sesiwn: £4.70
  • Aelodaeth 12 wythnos: £78.00 - dim ffi ymuno
  • NEU aelodaeth 12 wythnos am ddim os yn gymwys trwy atgyfeiriad meddyg teulu!

Ydych chi'n barod i ddechrau arni?

Cam 1: Cwblhewch y ffurflen ymholiad
Cam 2: Arhoswch am gadarnhad ac archebwch sesiwn sefydlu
Cam 3: Dechreuwch eich taith GoodBoost wedi'i phersonoli!