Ein Campfeydd

Yn Actif, rydych chi'n ymuno â mwy na champfa, rydych chi'n ymuno â chymuned groesawgar lle mae ffitrwydd yn teimlo'n dda, nodau yn teimlo'n gyraeddadwy, a chefnogaeth bob amser wrth law.

Pam dewis Actif?

Rydym yn cadw pethau'n syml, yn gyfeillgar ac yn hyblyg:

  • Hawdd ymuno ac archebu'n ddidrafferth
  • Offer o'r ansawdd gorau a thechnoleg glyfar ar gyfer pob nod
  • Mannau cynhwysol lle mae pawb yn teimlo'n gartrefol
  • Staff cyfeillgar, profiadol i'ch tywys a'ch cefnogi bob cam o'r ffordd

A dyma beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol: mynediad aml-safle, fel y gallwch hyfforddi'ch ffordd ar draws ein canolfannau.*

*mae'r holl gampfeydd yn unigryw, mae ganddynt eu hapêl unigryw eu hun a gall yr offer amrywio ychydig

Offer sy'n gweithio mor galed â chi

  • Life Fitness
  • Precor cardio a chryfder - teimlad premiwm, biomecaneg llyfn, a chonsolau cysylltiedig ar gyfer ffrydio a thracio perfformiad
  • Cylch ymarfer cryfder clyfar EGYM – ymarferion tywysedig sy'n addasu'n awtomatig i'ch nodau ar gyfer hyfforddiant diogel ac effeithiol
  • Parth Erg Concept2 - RowErg, SkiErg, a BikeErg ar gyfer ymarferion cardio effaith isel i'r corff cyfan
  • Dadansoddiad cyfansoddiad corff Tanita - tracio cyhyrau, braster, hydradiad, a mwy ar gyfer gwneud cynnydd ystyrlon

Hyfforddi yn eich Ffordd eich Hun

  • Sesiynau unigol gyda'r holl offer a data sydd eu hangen arnoch
  • Egni grŵp bach-mawr mewn cylchoedd ymarfer, chwilbedlo, a HIIT
  • Cydbwysedd meddwl-corff gyda ioga, Pilates, a dosbarthiadau symudedd

Cynhwysol trwy Ddyluniad

  • Perffaith ar gyfer dechreuwyr a mynychwyr campfa porfiadol. Bydd rhywbeth i bawb.
  • Campfa Iau 11+: Croesewir pobl ifanc rhwng 11 a 13 oed gydag oedolyn - perffaith ar gyfer meithrin arferion diogel yn gynnar
  • Sesiynau sy'n addas i bobl 60+: opsiynau effaith isel i adeiladu cryfder, hyblygrwydd a hyder i'r rhai sydd ei angen

    Sut mae dechrau arni

    1. Lawrlwythwch yr ap Actif
    2. Archebwch eich sesiwn sefydlu
    3. Dewiswch eich sesiynau cyntaf - campfa, dosbarthiadau, neu nofio
    4. Sganiwch i mewn ac ewch amdani

Campfeydd Actif

Mae’r offer sydd ar gael yng nghampfeydd Actif yn cynnwys:

Offer / Peiriannau Cardiofasgwlaidd 

  • Peiriannau Rhedeg
  • Powermills
  • Flex striders
  • Peiriannau Traws-ymarfer
  • Beiciau Hamdden 
  • Beiciau Unionsyth 
  • Beiciau Assault
  • Peiriannau Ski ergs
  • Peiriannau Rhwyfo Concept 2
  • Peiriant Rhwyfo Techogym 
  • Peiriant Rhedeg Assault 
  • Peiriant Rhedeg Assault Technogym

Peiriannau Gwrthiant a Phwysau Rhydd

  • Pwysau rhydd 6kg - 40kg
  • Mainc y mae modd ei Haddasu
  • Peiriant Tynnu Pwysau i Lawr
  • Peiriant Gwrthiant Pwli Deuol
  • Ymestyn â'r Coesau
  • Cyrlio â'r Coesau
  • Gwthio â'r Coesau
  • Ymestyn y Cefn
  • Gwthio â'r Ysgwyddau
  • Abdomenol
  • Pectoral fly Rear Deltoid
  • Peiriant Tynnu Pwysau i Lawr
  • Peiriant Rhwyfo
  • Rac Cyrcydu
  • Half Rack