Canolfan John Burns, Cydweli

Mae Actif Chwaraeon a Hamdden yn falch o sefydlu partneriaeth gyda Canolfan John Burns. Wedi'i gefnogi gan gyllid LEADER.

Beth sydd ymlaen yng Nghanolfan John Burns, Cydweli?

Dydd Llun - Fit am Oes

Amser Sesiwn: 10:30 - 11:15

Pris: £4.50 y sesiwn

Disgrifiad Dosbarth: Gan ddefnyddio technoleg Motiview, gallwch fwynhau anturiaethau beicio rhithwir ledled y byd a chymryd rhan mewn gemau fel Boccia. Dewch draw, symudwch, a gweld beth yw pwrpas y cyfan!

---------------------------------

Dydd Llun - Ymarfer Corff yn defnyddio cadair

Amser Sesiwn: 11:30 - 12:15

Pris: £4.50 y sesiwn

Disgrifiad Dosbarth: Bydd y sesiwn hon yn eich tywys trwy gyfres o ymarferion mewn cadair a gynlluniwyd i wella eich dygnwch, cryfder a chydbwysedd.

Sut i archebu trwy'r ap

Yn gyntaf lawrlwythwch ein ap Actif trwy fynd i siop ap ar eich ffôn. Chwiliwch am ‘Actif Sport and Leisure’. Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch yr ap a chliciwch ar y botwm dewislen ≡ (ar y top i’r chwith) yna dewiswch Fy Nghlybiau bydd rhestr yn ymddangos wedyn dewiswch Canolfan Pentre Awel.

Ar gyfer sesiynau Canolfan John Burns, Cydweli cliciwch ar deilsen Gweithgareddau Cymuned a dewiswch y sesiwn yr hoffech ei harchebu.

Am Canolfan John Burns

Cartref i Sylfaen John Burns, mae Canolfan John Burns yn lleoliad trawiadol sydd a'r nod o gyfoethogi bywydau pobl sy'n byw yn y gymuned. Gallant hefyd ddarparu cludiant gan ddefnyddio bws mini a yrrir gan dîm bach rhyfeddol o staff gwirfoddol.

Bydd y cydweithio yn agor llawer o gyfleoedd gwirfoddoli, am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar: actif@sirgar.gov.uk

Sylfaen John Burns

Facebook