Aelodaeth Corfforaethol

Mae'n ffaith bod gweithwyr iachach yn weithwyr hapusach ac yma yn Actif, mae ffitrwydd a llesiant eich gweithwyr yn bwysig i ni.

Partneriaid Corfforaethol

Edrychwch ar y rhestr islaw i ddarganfod a yw eich busnes eisoes yn un o'n partneriaid corfforaethol. Os yw, rydych yn gymwys i ymuno ag un o'n pecynnau aelodaeth corfforaethol.

Ymunwch ar-lein a dewch â phrawf o'ch cyflogaeth ar eich ymweliad cyntaf er mwyn i ni gadarnhau'r aelodaeth gorfforaethol.

  • Animal Health
  • Antur Cymru
  • Armed Forces
  • Arriva Trains
  • Birdshill Rural Renewables
  • Bluestone National Park Resort
  • Bro Myrddin Housing Association
  • BTG plc
  • Carmarthenshire County Council
  • Castell Howell Foods Ltd
  • Coleg Sir Gar
  • CWM Environmental Ltd
  • Delta Wellbeing
  • DVLA
  • Dunbia
  • Dwr Cymru Welsh Water
  • Dyfed Powys Police
  • Elidyr Communities Trust
  • Family Support Wales
  • Fresenius Medical Care
  • Furnace House Surgery
  • Pobl / Group Gwalia Cyf
  • Hafal
  • HASSRA Wales – West Wales Department of Work and Pensions staff
  • Health & Safety Executive (Carmarthen)
  • Her Majesty’s Courts & Tribunal Service (HMCTS)
  • HM Revenue & Customs – South Wales Group Valuation Office Agency (VOA)
  • HM Revenue & Customs – VAT Offices
  • HM Revenue & Customs – Inland Revenue (Tax) Offices
  • Hywel Dda health board
  • MicroPharm LTD
  • Mid & West Wales Fire & Rescue Service
  • Marelli Automotive Systems UK Ltd
  • Morrison’s (Llanelli)
  • Natural Resources Wales
  • PHS Group
  • Senedd Commission
  • St Michaels School
  • TATA
  • TK Maxx (Carmarthen Branch)
  • Welsh Assembly Government
  • Wales & West Utilities Ltd

Dod yn bartner corfforaethol

Rhowch fynediad diderfyn i'ch staff i'n campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd am lai na 70c y dydd.

Drwy fanteisio ar un o'n pecynnau aelodaeth corfforaethol, gall eich gweithwyr a'ch busnes elwa ar nifer o fuddion gan gynnwys;

  • Cynnydd o ran ffitrwydd a morâl
  • Gweithlu hapusach
  • Gwelliant o ran lefelau canolbwyntio
  • Lleihau lefelau straen
  • Cynnydd o ran cynhyrchiant 

Oes gennych ddiddordeb mewn Aelodaeth Gorfforaethol?

Mae ein pecynnau aelodaeth corfforaethol yn cynnig nifer fawr o fuddion i'ch gweithwyr gan gynnwys; 

  • Mynediad hollgynhwysol i bob un o'r 6 Canolfan Hamdden a Chwaraeon Actif
  • Aelodaeth Blatinwm - mynediad diderfyn i'r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio (ac eithrio Dosbarthiadau Synrgy)
  • Aelodaeth Efydd - mynediad diderfyn i bob un o'n 5 pwll nofio
  • Sesiwn Sefydlu am ddim
  • Adolygiad o'r rhaglen gyda hyfforddwr
  • Mynediad at dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos
  • Archebu dosbarthiadau ar-lein, bythefnos ymlaen llaw
  • Mynediad diderfyn i bob un o'n 5 pwll nofio
  • Mynediad i'r Ystafelloedd Iechyd (Caerfyrddin a Llanymddyfri a 18 oed ac uwch yn unig)
  • Gostyngiad o hyd at 40% ar weithgareddau a hyrwyddir
  • Defnyddio'r loceri am ddim
  • Wi-Fi am ddim

Pwy sy'n gymwys?

Mae gofyn bod o leiaf 5 gweithiwr o'ch sefydliad, busnes neu glwb yn cofrestru ar gyfer un o'n pecynnau aelodaeth;

Platinwm Corfforaethol (defnydd di-derfyn o'n campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd ar draws ein canolfannau)

Efydd Corfforaethol (nofio ac ystafell iechyd)

Hoffech chi gael gwybod rhagor? 

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn un o'n partneriaid corfforaethol ac eisiau cofrestru, cysylltwch a ni am fanylion;