Pyllau Nofio yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin yn cau er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol
*Y GWYBODAETH DIWEDDARAF*
14.04.25: Mae contractwyr wedi cyrraedd ar y safle ac mae gwaith wedi dechrau i ddraenio'r ddau bwll.
20.04.25: Draenio’r Pyllau – proses wedi’i chwblhau.
22.04.25: Gwaredu Teils wedi'i gwblhau yn y pwll dysgwyr.
22.04.25: Gwaredu Teils yn parhau yn y prif bwll.
24.04.25: Bydd yr Ystafell Iechyd yn dychwelyd i’w horiau gweithredu arferol o ddydd Sadwrn 26 Ebrill, nodwch y bydd contractwyr yn parhau i fod ar y safle yn ystod oriau’r dydd yn yr wythnos:
Wythnos: 08:00 i 21:00 (20:00 sesiwn olaf)
Penwythnos: 09:00 i 16:00 (15:00 sesiwn olaf)
----------------------------
Yn sgil pryderon diogelwch ynghylch nifer cynyddol o deils wyneb yn dod yn rhydd yn y prif bwll nofio a'r pyllau dysgwyr yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud y penderfyniad angenrheidiol i gau'r ddau bwll o 14 Ebrill 2025 er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol.
Disgwylir i'r gwaith atgyweirio gymryd tua 3 mis i'w gwblhau.
Nid oes byth amser cyfleus i wneud gwaith fel hyn yn anffodus; fodd bynnag, mae'r risg gynyddol wedi golygu bod rhaid gwneud y gwaith hwn yn gynharach er mwyn ei gwblhau cyn gynted â phosibl.
Rydym yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig, ond mae'r penderfyniad anodd hwn wedi'i wneud i sicrhau bod ein cyfleusterau yn ddiogel ac o safon uchel i'n holl ddefnyddwyr yn y tymor hir.
Er ein bod wedi cadw'r pyllau'n ddiogel trwy atgyweirio teils a gosod matiau pwll dros y misoedd diwethaf, bellach mae angen ail-leinio'r ddau bwll yn llawn. Yn ystod y cyfnod hwn pryd y bydd y pyllau ar gau byddwn hefyd yn gwneud gwelliannau ychwanegol i wella profiad nofio ein cwsmeriaid.
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod, gyda'r nod o achosi cyn lleied o darfu ag y bo modd a chynnig opsiynau eraill lle bo'n bosibl i ddefnyddwyr ac aelodau.
Diolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn y mater hwn.
Cwestiynau Cyffredin
Pam mae'r pwll yn cau?
Yn sgil pryderon diogelwch ynghylch nifer cynyddol o deils wyneb yn dod yn rhydd yn y prif bwll nofio a'r pwll dysgwyr yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud y penderfyniad angenrheidiol i gau'r ddau bwll o 14 Ebrill 2025 er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol.
Disgwylir i'r gwaith atgyweirio gymryd tua 3 mis i'w gwblhau.
Nid oes byth amser cyfleus i wneud gwaith fel hyn yn anffodus; fodd bynnag, mae'r risg gynyddol wedi golygu bod rhaid gwneud y gwaith hwn yn gynharach er mwyn ei gwblhau cyn gynted â phosibl.
Rydym yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig, ond mae'r penderfyniad anodd hwn wedi'i wneud i sicrhau bod ein cyfleusterau yn ddiogel ac o safon uchel i'n holl ddefnyddwyr yn y tymor hir.
Er ein bod wedi cadw'r pyllau'n ddiogel trwy atgyweirio teils a gosod matiau pwll dros y misoedd diwethaf, bellach mae angen ail-leinio'r ddau bwll yn llawn. Yn ystod y cyfnod hwn pryd y bydd y pyllau ar gau byddwn hefyd yn gwneud gwelliannau ychwanegol i wella profiad nofio ein cwsmeriaid.
Rydym yn deall y bydd gan lawer ohonoch gwestiynau am sut y bydd hyn yn effeithio ar eich ymweliadau â'r ystafell iechyd, gwersi nofio, mynediad i glybiau nofio, a'ch sesiynau nofio fel rhan o'ch aelodaeth. Gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio trwy'r manylion hyn, a byddwn yn cysylltu yn y dyddiau nesaf gyda gwybodaeth fwy penodol, gyda'r nod o achosi cyn lleied o darfu ag y bo modd a chynnig opsiynau eraill lle bo'n bosibl i ddefnyddwyr ac aelodau.
Am faint fydd y pwll ar gau?
Bydd ar gau o ddydd Llun 14 Ebrill am tua 3 mis.
Pam mae pwll Caerfyrddin ar gau am dri mis? Dyma beth sydd angen ei wneud!
Mae cau'r ddau bwll am dri mis yn angenrheidiol i wneud gwaith adnewyddu llawn, sy'n cynnwys sawl cam hanfodol gan gynnwys draenio, gosod wyneb newydd, leinio ac ail-lenwi. Mae'r gwaith hwn yn gymhleth ac mae angen amseru gofalus i sicrhau bod y pyllau'n cael eu paratoi'n briodol i'w defnyddio yn y dyfodol. Er ein bod yn deall bod 3 mis yn swnio fel amser hir, mae'n hanfodol cael y canlyniadau gorau posibl ar gyfer profiad nofio mwy diogel, llyfn a phleserus.
Mae adnewyddu'r ddau bwll yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin yn broses gymhleth lle mae angen bod yn fanwl gywir ym mhob cam o'r gwaith. Dyma fanylion beth sy'n digwydd:
Y Broses Cam wrth Gam
- Draenio'r Pyllau (Y Pythefnos Cyntaf)
Dim mater o dynnu'r plwg yn unig yw draenio'r pyllau! Gan fod cymaint o ddŵr, gallai ei waredu'n rhy gyflym roi pwysau ar strwythur y pwll a hyd yn oed achosi i'r wal ddymchwel. Dyna pam mae'n rhaid gwneud hyn yn araf ac yn ofalus dros bythefnos. - Gwaredu Teils
Mae angen tynnu pob teilsen - a rhaid gwneud llawer o'r gwaith â llaw. Mae hwn yn jobyn mawr sy'n cymryd amser i'w wneud yn iawn. - Sychu'r Concrit (7-10 Diwrnod)
Pan fydd y teils i ffwrdd, mae angen i'r concrit oddi tanynt fod yn gwbl sych cyn rhoi'r leinin newydd. Mae concrit yn fandyllog, sy'n golygu ei fod yn amsugno dŵr dros amser. Yn ystod y cam hwn o'r gwaith, efallai na fyddwch yn gweld contractwyr ar y safle, ond mae'r broses sychu hon yn hanfodol ac ni ellir ei brysio. - Ailwynebu'r Pyllau (7-10 Diwrnod)
Mae rendrad sment ffres yn cael ei roi ar bob arwyneb - waliau, lloriau, a grisiau - i greu sylfaen gadarn. Mae angen amser ar hwn hefyd i sychu'n llawn cyn i ni symud ymlaen i'r cam nesaf.
- Leinio a Gorffen
Pan fydd y pyllau'n sych, rydym yn symud i'r broses leinio fanwl:
- Cot o epocsi-resin yn cael ei rhoi a'i gadael i sychu
- Gosod dalenni o wydr ffibrog (o wead panylog), angen amser i sychu
- Dwy haen o baent epocsi, gan ei adael i sychu am 72 awr rhwng pob cot
- Rhoi'r got olaf, gan gynnwys marcwyr llinell pwll (hyd at wythnos i'w gwblhau) ac eto mae angen amser i sychu
- Ail-lenwi'r Pyllau (tua Pythefnos)
Yn union fel y draenio, rhaid gwneud yr ail-lenwi'n araf i ddiogelu strwythur y pwll. Gall hyn gymryd dros bythefnos. I roi hynny mewn persbectif:
🚰Petaech yn ei lenwi gan ddefnyddio tap cartref arferol, byddai'n cymryd bron i ddau fis o redeg dŵr yn ddi-stop!
🛁Petaech yn llenwi bath 150 litr bob dydd, byddai'n cymryd dros 9 mlynedd i gael faint o ddŵr sydd ei angen!
- Trin y Dŵr a Gwresogi Graddol
Ar ôl ei lenwi, mae angen triniaeth gemegol ofalus ar y dŵr a rhaid cynyddu'r tymheredd yn araf er mwyn osgoi gwneud difrod i'r leinin newydd.
Gwelliannau Ychwanegol
Tra bo'r pwll ar gau, rydym hefyd yn defnyddio'r amser hwn i:
✔️ Gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol yn yr ystafell offer
✔️ Gwneud gwaith cynnal a chadw yn nhoiledau'r dynion a'r merched, gan fynd i'r afael â'r problemau draenio presennol sydd wedi achosi i ddŵr sefyll a chreu arogl annymunol. Bydd y broblem hon yn cael ei datrys er mwyn gwella'r profiad.
Pan fydd yr holl waith hwn wedi'i wneud, rydym yn gobeithio cewch chi brofiad nofio sy'n fwy diogel, hwylus, a phleserus!
Rydym wir yn gwerthfawrogi'ch amynedd tra bo'r gwaith hanfodol hwn yn cael ei gwblhau, ac yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu nôl!
Pa gyfleusterau nofio amgen sydd ar gael?
Pyllau Nofio Dyffryn Aman, Llanelli a Llanymddyfri
Beth yw oriau agor Ystafell Iechyd yn ystod y gwaith?
Bydd yr Ystafell Iechyd yn dychwelyd i’w horiau gweithredu arferol o ddydd Sadwrn 26 Ebrill, nodwch y bydd contractwyr yn parhau i fod ar y safle yn ystod oriau’r dydd:
Wythnos: 08:00 i 21:00 (20:00 sesiwn olaf)
Penwythnos: 09:00 i 16:00 (15:00 sesiwn olaf)
A oedd y pwll yn anniogel i'w ddefnyddio? Pam mae angen ei atgyweirio?
Yn sgil pryderon diogelwch ynghylch nifer cynyddol o deils wyneb yn dod yn rhydd yn y prif bwll nofio a'r pwll dysgwyr yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud y penderfyniad angenrheidiol i gau'r ddau bwll o 14 Ebrill 2025 er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol.
Disgwylir i'r gwaith atgyweirio gymryd tua 3 mis i'w gwblhau.
Nid oes byth amser cyfleus i wneud gwaith fel hyn yn anffodus; fodd bynnag, mae'r risg gynyddol wedi golygu bod rhaid gwneud y gwaith hwn yn gynharach er mwyn ei gwblhau cyn gynted â phosibl.
Beth sy'n digwydd i fy aelodaeth os ydw i'n defnyddio'r pwll yn rheolaidd?
I fod yn gymwys ar gyfer yr opsiynau isod, rhaid i'ch safle cartref fod yn Ganolfan Hamdden Caerfyrddin ac wedi mynychu o leiaf un sesiwn nofio ers Ionawr 2025.
Bydd gennych rai opsiynau…
-
Gostyngiad o 33%: O 14 Ebrill 2025 hyd nes y bydd y pwll yn ailagor, byddwch yn derbyn gostyngiad o 33% ar eich aelodaeth. Mae hyn yn eich galluogi i barhau i ddefnyddio eich aelodaeth, gan gynnwys mynediad i'n pyllau eraill yn Nyffryn Aman, Llanelli, Llanymddyfri, neu Gastell Newydd Emlyn.
- Rhewi eich aelodaeth: Rydym yn gwybod efallai na fydd teithio i safleoedd eraill yn gyfleus i bawb, felly yr opsiwn arall fyddai rhewi eich aelodaeth o 14 Ebrill am 3 mis a bydd eich aelodaeth yn ailgychwyn yn awtomatig pan fyddwn yn ailagor.
- Canslo eich aelodaeth: Tra bod gennych yr opsiwn i ganslo, rydym yn argymell rhewi yn lle hynny. Fel hyn, byddwch yn osgoi ffioedd ail-ymuno a gallwch ddychwelyd yn hawdd unwaith y bydd y pwll yn cael ei ddefnyddio eto.
Byddaf yn nofio weithiau yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, ond fy mhrif safle yw Dyffryn Aman, Llanelli, Llanymddyfri, Sanclêr, neu Gastell Newydd Emlyn. Sut bydd sefyllfa'r pwll yn effeithio arnaf i?
Rydym yn deall os byddwch yn nofio yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin o bryd i'w gilydd, gall fod y cyfnod lle mae'r pwll ar gau fod yn anghyfleustra. Fodd bynnag, os mai Dyffryn Aman, Llanelli, Llanymddyfri, Sanclêr neu Gastellnewydd Emlyn yw eich safle cartref ar gyfer eich aelodaeth, ni allwn gynnig pris gostyngol. Mae'r gostyngiad yn berthnasol i'r rhai sy'n defnyddio'r pwll fel rhan o'u haelodaeth yn Ganolfan Hamdden Caerfyrddin yn unig.
A ydw i'n gallu cael ad-daliad neu ostyngiad am fod y pwll ar gau?
Gallwch, ar gyfer aelodau sydd wedi defnyddio’r pwll o leiaf unwaith, byddwch yn derbyn gostyngiad o 33% ar eich aelodaeth tra bydd y gwaith yn cael ei wneud. Bydd eich taliad debyd uniongyrchol ym mis Ebrill (ar 1 Ebrill) yn adlewyrchu'r gostyngiad hwn o 33%. Fodd bynnag, rydym yn deall efallai na fyddwch am barhau i nofio yn ein canolfannau hamdden amgen.
Os yw'n well gennych rewi eich aelodaeth yn lle hynny, rhowch wybod i ni.
Os byddwch yn dewis rhewi, gallwn wedyn gredydu’r swm a gymerwyd yng nghasglu Debyd Uniongyrchol Ebrill a chymhwyso’r credyd hwn pan fydd yn ailagor.
A fydd unrhyw ddosbarthiadau ffitrwydd amgen yn ystod y cyfnod cau?
O ganlyniad, ni fyddwn yn gallu cynnig sesiynau dŵr yn y pwll ond peidiwch â phoeni rydym wedi ychwanegu dosbarthiadau eraill at yr amserlen, gan gynnwys:
Dydd Llun 2yp Ymarfer Corff Cadair i Gerddoriaeth - yn lle ffit dwr- yn yr ystafell weithgareddau.
Dydd Llun 3yp - Beicio ysgafn dan do - yn cymryd lle Cycl H2O.
Dydd Mawrth 2yp - Cadair Zumba yn y stiwdio ddawns - yn cymryd lle dydd Mercher acwaffit (yn dechrau 22 Ebrill)
Dydd Gwener 2yp - Ymarfer Corff Cadair i Gerddoriaeth - Ystafell amlbwrpas
Dydd Gwener 3yp - Ymestyn Cadair - Ystafell amlbwrpas
Beth sydd yn digwydd i gwersi nofio (Swigod, Sblash, Ton, Rookies, FAST Iau)?
Rydym yn deall y gallai fod gennych gwestiynau am yr hyn y mae hyn yn ei olygu i sesiynau Dysgu Nofio neu wersi nofio oedolion eich plentyn.
Rydym yn bwriadu rhewi aelodaeth Dysgu Nofio - Debyd Uniongyrchol
Eich Opsiynau:
- Parhau ar safle arall - Os ydych chi am i’ch plentyn barhau â'i wersi nofio mewn lleoliad arall, byddem yn falch iawn o drefnu hyn. Os mai dyma yw eich dewis, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen isod er mwyn i ni wirio argaeledd ar y safle a ddewiswyd gennych. Er na allwn sicrhau slot i bawb, byddwn yn gwneud ein gorau! Cofiwch, dylech ond lenwi’r ffurflen os ydych chi'n bwriadu parhau â gwersi mewn canolfan hamdden arall. Os nad ydych am barhau â gwersi ar safle arall, does dim angen i chi wneud unrhyw beth.
Cliciwch yma i gyrchu'r Ffurflen
- Cymryd seibiant - rydym yn deall efallai na fydd teithio i ganolfan arall yn addas i chi ac felly efallai y byddwch am gymryd seibiant o'r gwersi hyd nes i ni ailagor pyllau Canolfan Hamdden Caerfyrddin. Os felly, peidiwch â phoeni, byddwn yn rhewi eich aelodaeth Dysgu Nofio yn awtomatig ac yn cadw eich lle ar y rhaglen. Pan fyddwn yn agosáu at ailagor y pwll, byddwn mewn cysylltiad i gadarnhau a hoffech barhau â'ch gwersi.
Beth sydd yn digwydd i gwersi nofio (Oedolion)?
Rydym yn deall y gallai fod gennych gwestiynau am yr hyn y mae hyn yn ei olygu i sesiynau Dysgu Nofio neu wersi nofio oedolion eich plentyn.
Eich Opsiynau:
Rydym ni’n gweithio’n galed i archwilio’r holl opsiynau sydd ar gael er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar eich sesiynau Dysgu Nofio. Dyma'r opsiynau sydd ar gael i chi:
-
Trosglwyddo i ganolfan arall – Os dymunwch barhau â’ch gwersi Dysgu Nofio i Oedolion ar safle arall, gallwch drosglwyddo i un o’r opsiynau canlynol:
-
Llanelli: Dydd Llun 2.30–3.00yp neu Dydd Iau 8.00–8.30 yh
-
Rhydaman: Dydd Mercher 1.00–1.30yp (Dechreuwyr) neu Dydd Gwener 7.35–8.15yb (Dechreuwyr) neu 8.15–8.45yh (Datblygu)
-
Cymerwch seibiant – rydym yn deall efallai na fydd teithio i ganolfan arall yn addas i chi ac felly efallai y byddwch am gael gwersi seibiant nes i ni ailagor pyllau Canolfan Hamdden Caerfyrddin. Os yw hyn yn berthnasol i chi, peidiwch â phoeni, byddwn yn rhewi eich aelodaeth Dysgu Nofio Oedolion yn awtomatig ac yn cadw lle i chi yn y rhaglen. Pan fyddwn yn agosáu at ailagor y pwll, byddwn mewn cysylltiad i gadarnhau a hoffech barhau â'ch gwersi.
Os hoffech drosglwyddo i ganolfan hamdden arall, anfonwch e-bost atom swimlessonscarmarthen@sirgar.gov.uk gan nodi'r lleoliad a'r amser sydd orau gennych. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer eich dewis, ond nodwch y gallai argaeledd fod yn gyfyngedig.
A ddylwn i gael ad-daliad ar fy nhaliad Dysgu Nofio ar gyfer mis Ebrill?
Fel rhan o'n hamserlen flynyddol, mae'r rhaglen Dysgu Nofio yn cynnwys pythefnos o wyliau Pasg ar draws ein holl byllau, sydd eisoes wedi'i gynnwys yn y cynllun gwers. Bydd y gwersi yn parhau fel arfer tan 14eg Ebrill, ac nid oes gwersi wedi’u hamserlennu yn ystod gwyliau’r Pasg.
Er mwyn cynnal symiau cyson o daliadau, mae cost y gwersi wedi’i lledaenu’n gyfartal ar draws pob un o’r 52 wythnos o’r flwyddyn, gan gynnwys y gwyliau pythefnos dros y Nadolig a’r gwyliau Pasg o bythefnos. Felly, er y bydd y pwll ar gau o 14 Ebrill, nid oes gwersi wedi'u hamserlennu yn ystod y cyfnod hwnnw, felly ni roddir ad-daliadau am yr amser hwnnw.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, mae croeso i chi estyn allan, a byddwn yn hapus i helpu!
Beth ydy oriau agor y caffi?
Mae oriau agor y caffi yn newid i:
Wythnos: 08:30 to 17:30
Penwythnos: 08:30 to 16:30
Cyfleusterau Ganolfan Hamdden
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionDiolch i chi – arwyr ein cymunedau CymruDydd Llun, 14 Rhagfyr 2020